Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Chwefror 2021
Amser:
14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11095
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS Nick Ramsay AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch gwelliannau i’r Bil Masnach - 10 Chwefror 2021
3.1.1 Nodwyd y papur.
3.2 Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch fframweithiau cyffredin - 10 Chwefror 2021
3.2.1 Nodwyd y papur.
3.3 Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch y berthynas newydd â’r UE - Beth mae'n ei olygu i Gymru - 12 Chwefror 2021
3.3.1 Nodwyd y papur.
3.4 Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan Gynullydd Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban at y Cadeirydd ynghylch Fframwaith Cyffredin dros dro'r DU ar Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid - 17 Chwefror 2021
3.4.1 Nodwyd y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.